Cynllun Ceir Trydan Cymunedol ar Fenthyg Wedi ei Lawnsio yn Ardal Bro Ffestiniog a Phenrhyndeudraeth!
Mae menter gymdeithasol arloesol Y Dref Werdd, wedi derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru i brynu 2 gerbyd trydan gyda 7 sedd fydd ar gael i’w llogi yng nghymunedau Bro Ffestiniog, Penrhyndeudraeth a phentrefi cyfagos yng Ngwynedd a Gogledd Cymru.Buodd Y Dref Werdd, mewn cydweithrediad hefo Cwmni Bro Ffestiniog, yn llwyddiannus yn sicrhau'r grant. Galluogodd hyn iddyn nhw brynu dau Nissan ENV 200’s. Mi fydd un o’r ceir wedi cael ei leoli ym Mlaenau Ffestiniog, a’r llall wedi ei leoli yn Siop y Garreg, Llanfrothen.Bydd y cynllun yma’n adeiladu ar brosiectau eraill a gychwynnwyd drwy rwydwaith Bro Ffestiniog, rhwydwiath sy’n anelu i hybu addysg gydweithiol a gweithredu yn ein cymunedau, tra ein bod ni’n symud tuag at ddyfodol sy’n fwy cynaliadwy, yn economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol.